Teithiau Tref Yng Ngogledd Cymru

SAESNEG CYMRAEG CYSYLLTWCH A NI DOLENNI

Tywyswyr Swyddogol Cymwysedig

Mae NWTGA (Cymdeithas Tywyswyr Gogledd Cymru) yn gymdeithas o dywyswyr swyddogol cymwysedig. Rydym oll yn ran o Gymdeithas Swyddogol Tywyswyr Cymru (WOTGA) - yr unig dywswyr mae Llywodraeth Cymru yn eu hadnabod ar gyfer cyflawni teithiau yng Nghymru. Mae'r tywyswyr wedi ymgymeryd asesiadau risg o bob taith ac efo yswyriant trydydd person.

Ein Cenhadaeth - I hysbysu a diddanu!

Mae gennym ddiddordeb mawr yn yr hanesion diddorol o'n trefi, efo'u cymeriadau unigryw a rydym yn ysu i rannu'r darganfyddiadau yma efo chi! Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi creu rhaglen o deithiau addysgiadol ac adloniadol, o'r enw 'Chwedl a Chrwydro'. Byddwn y dweud y straeon difyr, rhyfedd a mewn mannau trist yma, ac yn eich tywys i gornelau dirgel o'n trefydd cartref.

Cerdded y Chwedl!

Mae'r teithiau yn digwydd yn: Biwmares, Caernarfon, Conwy, Llangollen, Caergybi, Rhuthun, Rhuddlan a'r Waun. Mae o leiaf un taith bob wythnos ym mhob tref yn ystod Gorffennaf ac Awst, efo'r Waun a Llangollen yn cychwyn yn Mehefin a cario mlaen tan mis Medi. Bydd y teithiau yn mynd ymlaen hyd yn oed os oes dim ond un cwsmer, ac yn para tua awr a hanner. Maen't yn addas ar gyfer pob oed! Dowch yn llu - mae'r man cychwyn yn cael ei ddangos ar y tudalen priodol. Y gost ar gyfer 2012 bydd £5 i oedolion a £3 i blant. Gallwn drefnu teithiau arbennig i grwpiau. Os hoffech mwy o wybodaeth, ffoniwch 01286 678590.

Walking the Talk!

Mae'r teithiau yn digwydd yn: Biwmares, Caernarfon, Conwy, Llangollen, Caergybi, Rhuthun, Rhuddlan a'r Waun.

Bydd y teithiau yn para tua awr a hanner. Dim angen archebu lle. Oedolion £5, Plant £3. Gallwn drefnu teithiau arbennig i grwpiau.

Os hoffech mwy o wybodaeth, ffoniwch 01286 678590.

Cefnogwyd gan Bartneriaeth Twristiaeth
Gogledd Cymru

© 2009 North Wales Tourist Guiding Association, site design Ian Whitehead